Marine Protected Areas
Cynllunio MPA yn agos atoch chi
Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru
Mae sefydlu Parthau Cadwraeth Morol yn gyfle pwysig i ddiogelu ac adfer bywyd gwyllt morol Cymru. Y nod yw gwarchod ardaloedd o'r môr er mwyn diogelu'r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau prin, dan fygythiad a chynrychiadol a helpu sicrhau cynaliadwyedd hirdymor adnoddau morol yn ein dyfroedd.
Yng Nghymru mae'r prosiect yn cael ei gyflawni trwy Dîm Morol Llywodraeth Cymru. Yn wahanol i Barthau Cadwraeth Morol eraill a sefydlwyd yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis sefydlu parthau gyda lefel uchel o ddiogelwch yn unig, gan fod 36% o ardaloedd morol a 70% o'r arfordir yng Nghymru eisoes o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (megis Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (megis Ardal Gwarchodaeth Arbennig Cilfach Tywyn).
MCS a Pharthau Cadwraeth Morol
Mae gan ein moroedd gyfoeth o fywyd gwyllt, ac islaw'r tonnau mae tirweddau tanforol hardd ac amrywiol. Fodd bynnag, mae nifer o'n cynefinoedd a rhywogaethau cenedlaethol pwysig dan fygythiad neu mewn dirywiad ac mae'n allweddol ein bod yn gweithredu nawr i helpu diogelu ac adfer ein hamgylchedd morol. Mae MCS yn gweithio i gynrychioli eich buddiannau a helpu sicrhau gwell amddiffyniad i'n moroedd. Bydd yr holl wybodaeth berthnasol a gesglir trwy ymgyrch Eich Moroedd Eich Llais MCS yn cael eu cyflwyno trwy broses ymgynghori Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu i'r penderfyniad o ran ble bydd y Parthau Cadwraeth Morol gydag amddiffyniad uchel.
Parthau Cadwraeth Morol
Mae Parthau Cadwraeth Morol yn fath newydd o Ardal Warchodedig Forol, a gyflwynwyd trwy Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir y Deyrnas Unedig. Bydd y Parthau yn diogelu bywyd gwyllt, cynefinoedd, daeareg a geomorffoleg morol cenedlaethol bwysig. Bydd safleoedd yn cael eu dethol ledled y Deyrnas Unedig mewn dyfroedd mewndirol ac alltraeth. Yng Nghymru bydd dyfroedd mewndirol yn cael eu dynodi gan Lywodraeth Cymru ac alltraeth gan DEFRA. Bwriad y Parthau, ynghyd â mathau eraill o Ardaloedd Gwarchodedig Morol, yw llunio rhwydwaith ecolegol gydlynol o Ardaloedd Gwarchodedig Morol erbyn 2012, fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu eu safleoedd tan 2013.
Pa Ardaloedd fydd Wedi eu Gwarchod?
Tra bod prosiectau Parthau Cadwraeth Morol eraill wedi mynd am ymagwedd 'o'r gwaelod i fyny' i sefydlu'r rhwydwaith o Barthau, gan ymgynghori'n helaeth â rhanddeiliaid er mwyn iddynt allu darparu rhestr o safleoedd awgrymedig ar gyfer y rhwydwaith ecolegol cydlynol, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ymagwedd wahanol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn drafftio rhestr o 'safleoedd arfaethedig' yn defnyddio canllawiau dethol safle ecolegol ac yna'n edrych ar ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd. Yna byddant yn ymgynghori yn helaeth gyda rhanddeiliaid ar ba safleoedd fyddai'n well ganddynt o'r rhestr hon. Bydd MCS yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, gan gyflwyno data Eich Moroedd Eich Llais. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn cyfyngu'r rhestr hon i 3-4 safle bach o bosibl, yn ddim mwy na 5km.
Sut mae Aelodau MCS yn Cymryd Rhan?
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Ymgysylltu Rhanddeiliaid a Dinasyddion sy'n cael ei gydlynu trwy Bartneriaeth Arfordir a Môr Cymru. Mae MCS yn rhan o'r Grŵp Ymgysylltu ac rydym yn dod â'ch llais i'r drafodaeth. Bydd MCS yn cyflwyno eich data Eich Moroedd Eich Llais yn ystod y cam ymgynghori, ble fo'n berthnasol.
Mae gan nifer o gefnogwyr MCS ddealltwriaeth arbennig o'u hardaloedd lleol a'r planhigion ac anifeiliaid sy'n byw ynddynt. Er mwyn sicrhau bod y Parthau yn y lleoliadau gorau, mae'r Prosiect angen gwneud defnydd o'r cyfoeth hwn o wybodaeth. Os oes gennych fwy o wybodaeth yr hoffech rannu gyda Changen Forol Llywodraeth Cymru, cysylltwch â ni.
Mae MCS wedi derbyn rhywfaint o gyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen am Barthau Cadwraeth Morol ledled Cymru. Mae Rheolwr Rhaglen Cymru MCS wedi bod yn rhoi cyflwyniadau, mynychu digwyddiadau a chyfarfodydd. Rydym hefyd wedi cynhyrchu taflen yn amlinellu manteision y Parthau ac maent ar gael i'w dosbarthu'n helaeth ledled Cymru. Cysylltwch ag MCS os hoffech i ni anfon copïau atoch. Mae gennym hefyd ddwy faner (un Gymraeg un Saesneg) sydd ar gael i'w defnyddio mewn lleoliadau. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio gydag aelodau'r Co-operative yng Nghymru i ddangos eu cefnogaeth i'r safleoedd newydd a chysylltu ag Aelodau Cynulliad i'w gwneud yn ymwybodol o hyn.
Contacts
Cangen forol Llywodraeth Cymru
marine@wales.gsi.gov.uk
http://tinyurl.com/2agkl4y
Swyddog Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru
jill.brown@environment-agency.wales.gov.uk

facebooktwitteryoutube